Chwilio am y swydd berffaith

Mae tua 350 o yrfaoedd mewn dros 70 o wahanol broffesiynau ar gael ledled y GIG yn unig. Yn ogystal, mae nifer o sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r GIG wedi dewis hysbysebu eu swyddi gwag sy'n ymwneud ag iechyd ar NHS Jobs hefyd. Mae NHS Jobs yn derbyn tua 20,000 o hysbysebion bob mis.

Felly sut ydych chi'n mynd ati i ffeindio'r swydd sy'n iawn i chi?

Os ydych chi'n glir am yr hyn rydych chi'n chwilio amdano, gwnewch y gorau o'r offer chwilio sydd ar gael i chi a nodwch yn gyflym y swyddi hynny sy'n berthnasol i chi a gwnewch gais.

Chwiliad manwl

Mae eich swyddi trwy e-bost ac opsiynau chwilio cyflym yn ffordd dda o ddechrau chwilio am swydd ond os ydych chi eisiau canlyniadau mwy manwl, mae'r chwiliad uwch yn eich galluogi i chwilio gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:

Teitl y swydd

Mae hon yn ffordd syml o gychwyn eich chwiliad, gan chwilio am eiriau yn nheitl y swydd yn unig er y gall geiriau fel 'rheolwr' ddychwelyd llawer o gyfatebiaethau.

Sgiliau

Bydd hwn yn chwilio'r holl destun disgrifiad yn yr hysbyseb swydd ei hun a gall fod yn ffordd ddefnyddiol o fireinio'ch chwiliad - yn enwedig os oes sgiliau penodol y gwyddoch yr hoffech eu defnyddio.

Lleoliad

Chi sydd i benderfynu pa mor benodol ydych chi eisiau bod. Cofiwch y gallwch chwilio o gwmpas lleoliad trwy ddewis radiws o hyd at 50 milltir. I awgrymu mwy nag un lleoliad, gwahanwch y geiriau gyda choma neu ceisiwch chwilio gan gyflogwr. Gellir ddod o hyd i gyflogwyr sydd â phrif gyfrif ar NHS Jobs drwy'r 'Rhestr Cyflogwyr'.

Cyflog

Ni fydd rhai swyddi yn nodi cyflog gwirioneddol er y gall gwybodaeth ar wefannau NHS Careers roi syniad i chi o'r hyn y gallech ei ddisgwyl.

Math o swydd

Mae hyn mewn perthynas â threfniadau cytundebol a gynigir h.y. parhaol, cyfnod penodol neu dros dro.

Chwilio am gyflogwr penodol

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau efallai y byddwch am chwilio am swyddi gwag sydd ar gael gyda chyflogwr penodol. Os ewch i'r 'Rhestr Cyflogwyr' mae hyn yn agor rhestr o gyflogwyr naill ai yn nhrefn yr wyddor neu fesul rhanbarth penodol. Dewiswch eich rhanbarth i weld rhestr o gyflogwyr a chliciwch ar 'weld swyddi'. Cofiwch y gallwch hefyd nodi enw cyflogwr gan ddefnyddio'r chwiliad manwl.

Gallwch hefyd gyfyngu'ch chwiliad trwy ddefnyddio'r opsiynau mireinio eich chwiliad ar ochr dde'r dudalen canlyniadau chwilio. Mae hyn yn eich galluogi i ddewis mwy o eiriau allweddol, diffinio neu fireinio ystodau cyflog neu leoliadau a fydd yn eich helpu i nodi'r cyfatebiadau agosaf i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano.

Syniadau ac awgrymiadau eraill ar gyfer chwilio

  • Dychmygwch fod 'a' anweledig yn ymuno â'r blychau chwilio gwahanol felly dim ond canlyniadau sy'n ateb y meini prawf a gyflwynwyd gennych y byddwch yn eu cael.
  • Gallwch wahanu geiriau allweddol gyda choma sydd yn gweithredu fel 'neu'.
  • 'I chwilio am union ymadrodd, amgylchynwch yr allweddeiriau gyda dyfynodau ''.'
  • Os nad ydych am nodi gormod, mae'n iawn gadael rhai blychau yn wag. Er enghraifft, efallai y byddwch am ddefnyddio'r grŵp staff a'r opsiynau cyflog yn unig.

Cofiwch er mwyn darganfod mwy am y gwahanol rolau sydd ar gael yn y GIG a pha fathau o sgiliau a rhinweddau sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r rôl, ewch i wefan Health Careers.

Gweld gwybodaeth am chwilio am swyddi.
Chwiliwch am swyddi