Polisi Preifatrwydd Swyddi GIG

Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG sy'n gyfrifol am redeg Swyddi GIG. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar y cam ymgeisio am swydd ac yn symud eich cais ymlaen i'r sefydliad sy'n cyflogi. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni brosesu eich gwybodaeth fel bod eich darpar gyflogwr newydd yn gallu gwneud y canlynol:

  • gwirio eich bod yn ffit i weithio neu gadarnhau pa addasiadau rhesymol sydd eu hangen
  • monitro amrywiaeth yr ymgeiswyr i sicrhau ein bod ni / y sefydliad sy'n cyflogi yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • bodloni gofynion cyfraith diogelu lle mae hyn yn berthnasol i'r swydd wag
  • cadarnhau Hawl i Weithio, hunaniaeth, a chymhwyster ar gyfer y swydd wag

Defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych o fewn Swyddi GIG fel y gallwn wneud y canlynol:

  • personoli eich ymweliadau â Swyddi GIG, deall profiad y defnyddiwr a gwella'r gwasanaethau a ddarperir i chi.
  • dweud wrthych am y newidiadau diweddaraf i Swyddi GIG.
  • darparu gwasanaeth cwsmeriaid a chefnogaeth.
  • cyfathrebu â chi ar lefel bersonol.
  • cysylltu â chi i ddeall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan a gwneud gwelliannau.
  • mesur perfformiad ein gwasanaeth.
  • profi ein gwasanaeth wrth naill ai rhoi swyddogaethau newydd ar waith neu gefnogi ymchwiliadau yn ystod adegau o darfu ar wasanaethau.
  • trosglwyddo data o wasanaeth yn rheolaidd i warws data NHSBSA.
  • cyfuno data o Swyddi GIG, Cofnod Gwasanaeth Electronig y GIG, a systemau Pensiynau'r GIG i helpu'r GIG i ddeall llwybrau gyrfa a llywio gallu a chynllunio'r gweithlu.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r canlynol:

  • y System Cofnodion Staff Electronig (ESR) a ddefnyddir gan eich cyflogwr newydd, i'ch talu, i reoli eich cyflogaeth ac ar gyfer monitro cyfle cyfartal, os bydd eich cais yn llwyddiannus.
  • cyflogwyr a all gadw copïau o'ch cais yn lleol yn eu systemau eu hunain fel rhan o'u proses recriwtio.
  • unrhyw sefydliad arall sydd â hawl gyfreithiol iddo.

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ei hasiantaethau, ei sefydliadau partner, sefydliadau Conffederasiwn y GIG ac asiantaethau rheoleiddio annibynnol lle mae ei angen i gyflawni dyletswyddau swyddogol, megis, ond heb fod yn gyfyngedig i: cynllunio'r gweithlu; datblygu polisi'r GIG; a chynhyrchu ystadegau swyddogol neu ar gyfer mewnwelediad a fyddai o fudd i'r GIG ehangach.

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig, Dibynwledydd y Goron na Thiriogaethau Tramor Prydain.

Cadw eich gwybodaeth bersonol

I ymgeiswyr, bydd gwybodaeth bersonol yn y system e-recriwtio yn cael ei dileu o fewn 460 diwrnod i'r dyddiad cau a hysbysebir ar gyfer ceisiadau. Cedwir y wybodaeth hon fel y gallwn ailymweld â swyddi gweigion a cheisiadau rhag ofn y bydd angen ail-hysbysebu'r swydd wag neu i'n galluogi i ymateb i unrhyw ymholiadau gan ymgeiswyr.

I recriwtwyr, bydd data hysbysebion swyddi gwag yn cael ei gadw am o leiaf 20 mlynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw gofyn i unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu cyn 20 mlynedd drwy gysylltu â'r NHSBSA drwy e-bost ar nhsbsa.nhsjobs@nhsbsa.nhs.uk, a gofyn am yr hawl i gael eich anghofio.

Eich hawliau

Bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei rheoli fel sy'n ofynnol gan y gyfraith Diogelu Data. Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • derbyn copi o'r wybodaeth sydd gan yr NHSBSA amdanoch.
  • gofyn i'ch gwybodaeth gael ei newid os ydych yn credu nad oedd yn gywir ar yr adeg y gwnaethoch ei darparu.
  • gofyn i'ch gwybodaeth gael ei dileu, trwy anfon neges e-bost at nhsbsa.nhsjobs@nhsbsa.nhs.uk.

Dysgu mwy am eich hawliau a sut rydym yn prosesu gwybodaeth.